A Wnaiff y Gwragedd ... ? - Profiad Un Fenyw yn y Weinidogaeth

Author:   Beti-Wyn James
Publisher:   Gomer Press
ISBN:  

9781848516687


Pages:   164
Publication Date:   10 April 2013
Format:   Paperback
Availability:   Available To Order   Availability explained
We have confirmation that this item is in stock with the supplier. It will be ordered in for you and dispatched immediately.

Our Price $20.67 Quantity:  
Add to Cart

Share |

A Wnaiff y Gwragedd ... ? - Profiad Un Fenyw yn y Weinidogaeth


Add your own review!

Overview

The experiences of a female minister of religion, Beti Wyn James, in present-day's Wales.

Full Product Details

Author:   Beti-Wyn James
Publisher:   Gomer Press
Imprint:   Gomer Press
Dimensions:   Width: 14.00cm , Height: 1.40cm , Length: 21.60cm
ISBN:  

9781848516687


ISBN 10:   1848516681
Pages:   164
Publication Date:   10 April 2013
Audience:   General/trade ,  General
Format:   Paperback
Publisher's Status:   Active
Availability:   Available To Order   Availability explained
We have confirmation that this item is in stock with the supplier. It will be ordered in for you and dispatched immediately.
Language:   Welsh

Table of Contents

Reviews

Taith ddiddorol sy'n amrywio'n ddyddiol yn ei her a'i phrofiadau dros gyfnod o bedair blynedd ar bymtheg yn y weinidogaeth Gristnogol a geir gan Beti-Wyn James yn y gyfrol hon. Derbyniodd yr awdur, yn betrusgar iawn, gynnig i rannu ei phrofiadau mewn cyfrol am ei gwaith yn y weinidogaeth Gristnogol gan Elinor Wyn Reynolds o Wasg Gomer. Mae Elinor yn aelod yng nghapel y Priordy, Caerfyrddin, sef un o'r eglwysi sydd dan ofal Beti-Wyn; ynghyd ag eglwysi Cana ac eglwys Bresbyteraidd Bancyfelin. Mae'r llun ar y clawr yn debyg iawn i fy adnabyddiaeth o'r awdur - gwraig ifanc sy'n gwisgo'n ffasiynol mewn trowsus a bwts, sef y dillad y mae Beti-Wyn ei hun yn gwisgo'n aml! Mae'r wraig ar y clawr yn cario Beibl, ynghyd a bagiau amrywiol, ac yn ceisio siarad ar ei ffon symudol yr un pryd - sefyllfa gyffredin arall i Beti-Wyn! Dyma weinidog sydd ar y blaen ym myd technoleg, gan ei bod hi'n trydar ac yn un o ddilynwyr Facebook. Nid hunangofiant sydd yma, na chyfrol ddiwinyddol, ond ymgais i dynnu ein sylw at y weinidogaeth Gristnogol yn y Gymru sydd ohoni. Cawn yma gyfrol o sylwadau personol a hanes taith Beti-Wyn hyd yn hyn. Eglwys Hebron, Clydach oedd cychwyn y siwrne, yna dechreuodd ar ei gyrfa weinidogaethol yn eglwys y Tabernacl, y Barri ac mae hi bellach yn gweinidogaethu yng Nghaerfyrddin. Ceir cymariaethau a'r rhaglen deledu The Ficer of Dibley, a hanes y Parchedig Geraldine Granger ym mhentref dychmygol Dibley yn ceisio cwrdd a disgwyliadau'r saint yn Dibley. Yn y gyfrol sonnir am wragedd eraill sydd yn y weinidogaeth, a cheir yma brofiadau sydd wedi dod i ran pob gweinidog, boed yn wr neu wraig, wrth ymgymryd a dyletswyddau'r swydd, gan gynnwys troeon trwstan. Nid oes fawr o wahaniaeth rhwng profiadau'r ddau ryw mewn gwirionedd. Nid dadl academaidd dros ordeinio gwragedd i'r weinidogaeth sydd yma, ond trwy'r llyfr cawn ein hargyhoeddi fod Beti-Wyn ac eraill yn llwyddo yn eu gwaith, a bod cefnogaeth iddynt. Mae'r awdur yn dewis ei geiriau'n ofalus, gan geisio cadw natur a bwriad y gyfrol mewn cof bob amser, sef 'A wnaiff y gwragedd...?' Yr hyn a geir trwy'r llyfr yw'r neges ganolog ei bod wedi cael ei dewis i gyflawni'r swydd hon gan Dduw. Gwna Beti-Wyn i ni feddwl am yr holl bethau cadarnhaol sydd wedi dod i'w rhan, a gofynnwn i ni ein hunain, pam mae rhai gofalaethau ac eglwysi yn parhau i wrthwynebu ordeinio gwragedd? Yn anffodus, mae rhan gwragedd yn y weinidogaeth Gristnogol yn destun dadl ers degawdau. Fodd bynnag, yn y gyfrol hon, sonnir am brofiadau o gael croeso cynnes, o garedigrwydd mawr, a phobl yn ymfalchio yng ngwaith eu gweinidog. A oes angen gwell tystiolaeth na hyn arnom i brofi bod Duw yn galw ar ddynion a merched i weithio ar ei ran? Dywed yr awdur wrthym am ei phrofiadau cadarnhaol fel gwraig yn y weinidogaeth, ac y mae'r gyfrol, yn fy nhyb i - a minnau hefyd yn weinidog o fenyw - yn dyrchafu gweinidogaeth y merched. Rwy'n sicr y caiff bawb flas ar y darllen. Carys Ann Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatad Cyngor Llyfrau Cymru. It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council. -- Cyngor Llyfrau Cymru


Author Information

Tab Content 6

Author Website:  

Customer Reviews

Recent Reviews

No review item found!

Add your own review!

Countries Available

All regions
Latest Reading Guide

MRG2025CC

 

Shopping Cart
Your cart is empty
Shopping cart
Mailing List