Rheswm a Rhyddid

Author:   Various ,  E. Gwynn Matthews
Publisher:   Y Lolfa
ISBN:  

9781784618667


Pages:   144
Publication Date:   22 July 2020
Format:   Paperback
Availability:   In stock   Availability explained
We have confirmation that this item is in stock with the supplier. It will be ordered in for you and dispatched immediately.

Our Price $20.67 Quantity:  
Add to Cart

Share |

Rheswm a Rhyddid


Add your own review!

Overview

The main focus of this volume is the Enlightenment, the conceptional revolution that set the foundation of the values and politics of the modern era and is the hypothetical basis of the Liberal state. With Liberal values under threat in many parts of the Western world - from the USA of Donald Trump to the Britain of Dominic Cummings - it is a current and relevant topic. -- Cyngor Llyfrau Cymru

Full Product Details

Author:   Various ,  E. Gwynn Matthews
Publisher:   Y Lolfa
Imprint:   Y Lolfa
ISBN:  

9781784618667


ISBN 10:   1784618667
Pages:   144
Publication Date:   22 July 2020
Audience:   General/trade ,  General
Format:   Paperback
Publisher's Status:   Active
Availability:   In stock   Availability explained
We have confirmation that this item is in stock with the supplier. It will be ordered in for you and dispatched immediately.
Language:   Welsh

Table of Contents

Reviews

Dyma'r wythfed casgliad o ysgrifau yng Nghyfres Astudiaethau Athromyddol. -- Y Lolfa


Dyma'r wythfed casgliad o ysgrifau yng Nghyfres Astudiaethau Athromyddol. -- Cyhoeddwr: Y Lolfa Hon yw'r wythfed yn y gyfres Astudiaethau Athronyddol a gyhoeddwyd yn flynyddol ers 2013 gan aelodau Adran Athronyddol Cymdeithas Cyn-fyfyrwyr Prifysgol Cymru, a golygydd cyffredinol y gyfres ers y cychwyn yw un o'n hathronwyr amlycaf a mwyaf cynhyrchiol yng Nghymru, E. Gwynn Matthews. Y tro hwn penderfynwyd cyhoeddi cyfrol o saith ysgrif gan ysgolheigion blaenllaw i gyfarch yr Athro Emeritws Howard Williams, gynt o Adran Wleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth, ar achlysur ei ben-blwydd yn saith deg mlwydd oed. Mae Howard Williams yn un o Lywyddion Anrhydeddus yr Adran hon, ac yn hael ei gefnogaeth a'i gyfraniad dros y blynyddoedd. Athroniaeth wleidyddol yw prif faes Howard, a phenderfynwyd comisiynu casgliad o ysgrifau'n canolbwyntio ar yr union feysydd y gwnaeth yntau ei gyfraniad pwysicaf iddynt sef syniadaeth tri o'r cewri: Karl Marx, Georg Wilhelm Friedrich Hegel, ac yn bennaf oll Immanuel Kant. Bu cyfraniad Howard i'r meysydd hyn yn un nodedig, a hynny mewn nifer o ieithoedd gwahanol. Ac ar hyn o bryd mae Howard yn un o'r tri ysgolhaig sydd wedi cychwyn cyfieithu un o weithiau pwysicaf Kant, Cynseiliau Metaffiseg Moesau. I gyflwyno'r gyfrol cawn gyfle i ddarllen bywgraffiad cryno o'r Athro Williams a anwyd ym mhentref Ffos-y-ffin ger Aberaeron yn 1950. Addysgwyd ef yn Ysgol Ramadeg Aberaeron a Choleg y Brifysgol Llundain lle bu'n astudio Economeg a Gwleidyddiaeth Ryngwladol, gan raddio yn 1971. Ym Mhrifysgol Durham cwblhaodd ei radd meistr, yna ei radd doethuriaeth am draethawd ymchwil oedd yn cymharu Marx a Hegel. Yn fuan daeth llif o gyhoeddiadau safonol o'i eiddo. Bu ar staff Coleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor rhwng 1974 a 1979, ac yna daeth i Aberystwyth a threulio gweddill ei yrfa'n darlithio yn yr adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yno. Enillodd gadair bersonol yn 1992 ac, yn dilyn ei ymddeoliad, gwnaeth gyfraniad neilltuol at ddatblygiad y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Mae'n hollol briodol mai ysgrif gan Howard Williams ei hun yw'r gyntaf o fewn y gyfrol, lle mae'n dadansoddi rhai o syniadau Karl Marx yn ei gyhoeddiadau cynharaf ac yn cynnig dadansoddiad ffres o syniadau gwleidyddol Marx yn ei aeddfedrwydd. Rhoddir sylw arbennig hefyd i syniadau Antonio Gramsci, un o arweinwyr Marcsaidd amlycaf yr ugeinfed ganrif. Yna ailgyhoeddir adolygiad o waith E. Gwynn Matthews, golygydd y gyfrol, dan y teitl 'Hunaniaeth yn y Byd Cyfoes', gan Francis Fukuyama, a welodd olau dydd yn 2018. Dyma grynodeb hwylus sydd yn gwneud nifer o bwyntiau trawiadol. I ddilyn, cawn ddarllen erthygl gan David Sullivan sydd yn dadansoddi'n fanwl agweddau'r athronydd Almaeneg Hegel at genedlaetholdeb. Disgrifiwyd Hegel fel 'tad deallusol Sosialaeth Genedlaethol yr Almaen'. Mae'n hollol briodol i fab Howard, sef y Dr Huw Lloyd Williams, uwch-ddarlithydd ym Mhrifysgol Caerdydd ac un o bileri'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, gyfrannu at y gyfrol i gyfarch y tad a fu'n gymaint o ysbrydoliaeth iddo drwy'r blynyddoedd. Testun ysgrif Huw yw 'Kant, Rawls a gobaith mewn Gwleidyddiaeth Ryngwladol'. Prif thema'r erthygl yw athroniaeth wleidyddol Kant a'i ddylanwad uniongyrchol ar agwedd meddwl John Rawls, un o athronwyr pwysicaf yr ugeinfed ganrif ar ei hyd. Kant a chrefydd yw pwnc yr ysgrif nesaf o waith Dafydd Huw Rees, ac yna cawn gyfle i ddarllen trosiad o'r Almaeneg i'r Gymraeg ganddo, ar y cyd a Garmon Iago, o waith Kant ei hun, sef 'Beth yw Goleuedigaeth?' Ac i gloi'r gyfrol mae Garmon Iago yn ystyried gweithiau dau feddyliwr amlwg, Theodor Adorno a Michel Foucault, a'u hagweddau at Kant. Rhaid hefyd llongyfarch y golygydd ar baratoi'r gyfrol mor effeithiol a chymen. Edrychwn ymlaen yn eiddgar at gyhoeddi'r nesaf yn y gyfres yn 2021. -- J. Graham Jones @ www.gwales.com


Author Information

Tab Content 6

Author Website:  

Customer Reviews

Recent Reviews

No review item found!

Add your own review!

Countries Available

All regions
Latest Reading Guide

wl

Shopping Cart
Your cart is empty
Shopping cart
Mailing List