|
|
|||
|
||||
OverviewDafydd John Pritchard's second volume of poetry comprises poems in both strict and free verse reflecting piercing comments on society. Full Product DetailsAuthor: Dafydd John PritchardPublisher: Cyhoeddiadau Barddas Imprint: Cyhoeddiadau Barddas ISBN: 9781906396640ISBN 10: 1906396647 Pages: 80 Publication Date: 01 November 2013 Audience: General/trade , General Format: Paperback Publisher's Status: Active Availability: In Print This item will be ordered in for you from one of our suppliers. Upon receipt, we will promptly dispatch it out to you. For in store availability, please contact us. Language: Welsh Table of ContentsReviewsYn ei waith beunyddiol fel rheolwr Archif Sgrin a Sain y Llyfrgell Genedlaethol mae Dafydd Pritchard wrthi'n dawel yn rhoi ar gof a chadw ac yn diogelu rhai o'r eiliadau prin hynny sy'n esbonio pwy ydym ac yn adrodd ein stori fel pobl. Yn yr un modd yn y gyfrol hon mae'r bardd-archifydd yn cofnodi'n dawel ambell garreg filltir ar ei siwrne bersonol o Nant Peris i Lanbadarn Fawr ar sgrin a sain ei awen glywedol. Rhwng llinellau'r cerddi deuwn i'w adnabod yn well. Cawn ddilyn y Ln Fain yng nghysgod copaon gwyn y Garn a'r Glyder ym mro'i febyd hyd at gaffis y prom yn Aberystwyth, lle caiff gyfle i fyfyrio wrth wylio'r haul yn machlud a'r dydd yn diflannu dros y mr tragwyddol. Ar y daith synhwyrus hon cawn flasu llaeth enwyn a mwyar duon hen ffordd o fyw a chyfarfod 'i ddiweddar frawd, Alan, i'r hwn y cyflwynir y gyfrol er cof amdano. Tywysir ni hefyd ar nifer o deithiau tramor ac mae'r cardiau post o gerddi o gyfandir Ewrop yn cyfoethogi'r gyfrol. Ymateb bardd a geir ynddynt yn hytrach nag ailbobiad o lawlyfr y twrist. Fel T. H. Parry-Williams ac Iwan Llwyd o'i flaen, mae'r ln tua'r gorwel yn denu. Cyflwynir ni hefyd i rai o'i gymdeithion. Ef, bellach, yw bardd llys byrddau gwledd y Llyfrgell Genedlaethol a cheir yma nifer o gerddi cyfarch i rai o gymeriadau'r sefydliad hwnnw yn nhraddodiad gorau'r canu mawl. Ac yn ogystal, yn null y bardd cymdeithasol, fe gofir yn dyner am ambell un a gollwyd ar y daith. Ar ben hynny cawn fraslun o'r map ysbrydol a'i harweniodd ar y bererindod o gapel yr Hen Gorff yn Nant Peris hyd at yr Eglwys yn Rhufain. Ar y ffordd geilw heibio am egwyl yn Abaty'r Brodyr Llwydion ym Melmont yn swydd Henffordd, yn y gobaith o fedru clustfeinio ar y geiriau cudd a gwyd o dawelwch mynachdy. Mae'n gwmni difyr. Mwynhewch ei ddiwylliant eang a'i hiwmor cynnil wrth gydgerdded y Ln Fain. Idris Reynolds Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatd Cyngor Llyfrau Cymru. It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council. -- Cyngor Llyfrau Cymru Author InformationTab Content 6Author Website:Countries AvailableAll regions |