|
|
|||
|
||||
OverviewA collection of essays on some of the great literary figures of Clwyd and their contribution to local history and to the intellectual history of Wales. -- Cyngor Llyfrau Cymru Full Product DetailsAuthor: E. Gwynn MatthewsPublisher: Y Lolfa Imprint: Y Lolfa ISBN: 9781784617479ISBN 10: 1784617474 Pages: 186 Publication Date: 10 July 2019 Audience: General/trade , General Format: Paperback Publisher's Status: Active Availability: In stock We have confirmation that this item is in stock with the supplier. It will be ordered in for you and dispatched immediately. Language: Welsh Table of ContentsRhagair Colofn Dysg: Humphrey Lhuyd o Ddinbych Y Gair yn y Llan: William Salesbury ac Addoliad yr Eglwys Deuparth Bonedd yw Dysg: Henry Salesbury, Dolbelydr Ohono maer Byd drwyddo: Credo Morgan Llwyd Jac Glan-y-gors ar Baganiaeth Newydd Genefa, Paris a Dinbych: Agweddau ar Gair yn ei Amser Thomas Jones o Ddinbych Dau Fardd Dau Ddrych: Jac Glan-y-gors a Twm or Nant Thomas Gee ar Estrones Syr Henry Jones a Diwygiad 04 05 -- Y LolfaReviewsMae'r pleserau sy'n tarddu o feddwl ac o ddysgu yn creu awydd ynom i feddwl a dysgu mwy, meddai Aristoteles yn yr hen fyd; a dyna'r union bleserau ges i wrth ddarllen cyfrol Gwynn Matthews am wyr llen Sir Ddinbych. Mae yn y llyfr lawer o ffeithiau a hanesion difyr, a rheiny'n seiliedig ar ymchwil ysgolheigaidd. O Sir Ddinbych y daw'r awdur ac yn naturiol mae hanes a daearyddiaeth y sir yn gyfarwydd iddo ac yn annwyl ganddo. Ond nid pentyrru ffeithiau na cheisio dweud popeth am y llenorion a'u broydd sydd yma. Llyfr athronydd ydyw ac mae pob ysgrif yn gafael mewn edefyn syniadol ac yn datblygu dadl dadl yr awdur am gyfnodau a syniadau arbennig, ac yn aml iawn hefyd dadleuon y bu'r llenorion eu hunain yn gysylltiedig hwy. Mae yma naw o ysgrifau. Caiff Jac Glan-y-gors ysgrif iddo'i hun ac un arall ar y cyd Twm o'r Nant. Gosodir y llenorion yn fras mewn trefn amser a gellir eu rhannu'n ddau grwp. Dyneiddwyr yng nghyfnod Protestaniaeth gynnar yw'r grwp cyntaf ac mae'r pedwar ysgrif fel petasent yn siarad 'i gilydd: Humphrey Llyud, William Salesbury, Morgan Llwyd, a Henry Salesbury, yr olaf yn enw anghyfarwydd i mi. Mae dilyn agweddau ar eu gweithgarwch yn mynd ni ym mhob achos at gyd-destun eang a dylanwad syniadau oedd yn cylchredeg drwy Ewrop. Mae'n mynd ni at gwestiynau iaith hefyd gan mai dyma gyfnod pan oedd Lladin yn dal yn iaith ysgolheictod rhyngwladol, ond ar yr un pryd yr oedd ymdrechion ar droed mewn sawl gwlad i gyfoethogi'r ieithoedd brodorol a'u gwneud yn gyfrwng dysg a chrefydd. Agwedd bwysig o'r ymdrechion hyn oedd cyfieithu i'r ieithoedd brodorol. Perthyn yr ysgrifau eraill i'r 19eg ganrif estynedig, o Chwyldro Ffrainc hyd at ddechrau'r 20fed ganrif: Jac Glan-y-gors a Twm o'r Nant fel y soniwyd eisoes, Thomas Jones o Ddinbych, Thomas Gee, a Syr Henry Jones. Nid oes yr un undod yn y llenorion hyn fel grwp, ond mae llawer o gwestiynau difyr yn codi ac ambell waith yn torri ar draws ein rhagdybiaethau: a oedd Methodistiaeth Galfinaidd bob amser yn wrthwynebus i radicaliaeth wleidyddol? A feddyliais i erioed y byddwn yn gallu magu llawer o ddiddordeb yn y dadleuon o gwmpas datgysylltu Eglwys Loegr yng Nghymru, ond difyr oedd darllen am y ddadl hir ar dudalennau'r Faner rhwng Thomas Gee (a fagwyd yn eglwyswr cyn troi yn Galfin) a John Owen, Deon Llanelwy (a drodd at yr eglwys wedi magwraeth Galfinaidd). Ar ddechrau'r gyfrol ceir dyfyniad o Saunders Lewis: Ceisiais ddangos nad yr etifeddiaeth neilltuol a ddylai fod yn destun balchder, eithr yr etifeddiaeth gyfrannog. Llwyddodd Gwynn Matthews i ddilyn yr un llwybr mewn cyfrol sydd hefyd yn hynod o ddifyr a hawdd ei darllen. Ned Thomas Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatd Cyngor Llyfrau Cymru. It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council. -- Cyngor Llyfrau Cymru 'Mae'r pleserau sy'n tarddu o feddwl ac o ddysgu yn creu awydd ynom i feddwl a dysgu mwy,' meddai Aristoteles yn yr hen fyd; a dyna'r union bleserau ges i wrth ddarllen cyfrol Gwynn Matthews am wyr lln Sir Ddinbych. Mae yn y llyfr lawer o ffeithiau a hanesion difyr, a rheiny'n seiliedig ar ymchwil ysgolheigaidd. O Sir Ddinbych y daw'r awdur ac yn naturiol mae hanes a daearyddiaeth y sir yn gyfarwydd iddo ac yn annwyl ganddo. Ond nid pentyrru ffeithiau na cheisio dweud popeth am y llenorion a'u broydd sydd yma. Llyfr athronydd ydyw ac mae pob ysgrif yn gafael mewn edefyn syniadol ac yn datblygu dadl dadl yr awdur am gyfnodau a syniadau arbennig, ac yn aml iawn hefyd ddadleuon y bu'r llenorion eu hunain yn gysylltiedig hwy. Mae yma naw o ysgrifau. Caiff Jac Glan-y-gors ysgrif iddo'i hun ac un arall ar y cyd Twm o'r Nant. Gosodir y llenorion yn fras yn nhrefn amser a gellir eu rhannu'n ddau grwp. Dyneiddwyr yng nghyfnod Protestaniaeth gynnar yw'r grwp cyntaf ac mae'r pedair ysgrif fel petasent yn siarad 'i gilydd: Humphrey Lhuyd, William Salesbury, Morgan Llwyd, a Henry Salesbury, yr olaf yn enw anghyfarwydd i mi. Mae dilyn agweddau ar eu gweithgarwch yn mynd ni ym mhob achos at gyd-destun eang a dylanwad syniadau oedd yn cylchredeg drwy Ewrop. Mae'n mynd ni at gwestiynau iaith hefyd gan mai dyma gyfnod pan oedd Lladin yn dal yn iaith ysgolheictod rhyngwladol, ond ar yr un pryd yr oedd ymdrechion ar droed mewn sawl gwlad i gyfoethogi'r ieithoedd brodorol a'u gwneud yn gyfrwng dysg a chrefydd. Agwedd bwysig o'r ymdrechion hyn oedd cyfieithu i'r ieithoedd brodorol. Perthyn yr ysgrifau eraill i'r 19eg ganrif estynedig, o Chwyldro Ffrainc hyd at ddechrau'r 20fed ganrif: Jac Glan-y-gors a Twm o'r Nant fel y soniwyd eisoes, Thomas Jones o Ddinbych, Thomas Gee, a Syr Henry Jones. Nid oes yr un undod yn y llenorion hyn fel grwp, ond mae llawer o gwestiynau difyr yn codi ac ambell waith yn torri ar draws ein rhagdybiaethau: a oedd Methodistiaeth Galfinaidd bob amser yn wrthwynebus i radicaliaeth wleidyddol? Ni feddyliais i erioed y byddwn yn gallu magu llawer o ddiddordeb yn y dadleuon o gwmpas datgysylltu Eglwys Loegr yng Nghymru, ond difyr oedd darllen am y ddadl hir ar dudalennau'r Faner rhwng Thomas Gee (a fagwyd yn eglwyswr cyn troi yn Galfin) a John Owen, Deon Llanelwy (a drodd at yr eglwys wedi magwraeth Galfinaidd). Ar ddechrau'r gyfrol ceir dyfyniad gan Saunders Lewis: 'Ceisiais ddangos nad yr etifeddiaeth neilltuol a ddylai fod yn destun balchder, eithr yr etifeddiaeth gyfrannog.' Llwyddodd Gwynn Matthews i ddilyn yr un llwybr mewn cyfrol sydd hefyd yn hynod o ddifyr a hawdd ei darllen. Ned Thomas Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatd Cyngor Llyfrau Cymru. It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council. -- Cyngor Llyfrau Cymru Author InformationTab Content 6Author Website:Countries AvailableAll regions |