Astudiaethau Athronyddol: 7. Llenydda, Gwleidydda a Pherfformio

Author:   Various ,  E. Gwynn Matthews
Publisher:   Y Lolfa
ISBN:  

9781784616564


Pages:   120
Publication Date:   08 February 2019
Format:   Paperback
Availability:   In stock   Availability explained
We have confirmation that this item is in stock with the supplier. It will be ordered in for you and dispatched immediately.

Our Price $20.67 Quantity:  
Add to Cart

Share |

Astudiaethau Athronyddol: 7. Llenydda, Gwleidydda a Pherfformio


Add your own review!

Overview

A collection of essays relating to issues closely related to philosophy or philosophical discussions in the fields of the arts and politics. Contributors are Howard Williams, E. Gwynn Matthews, Huw L. Williams, Steven D. Edwards, Rhiannon M. Williams and Dafydd Huw Rees. -- Cyngor Llyfrau Cymru

Full Product Details

Author:   Various ,  E. Gwynn Matthews
Publisher:   Y Lolfa
Imprint:   Y Lolfa
Dimensions:   Width: 14.00cm , Height: 1.00cm , Length: 21.00cm
ISBN:  

9781784616564


ISBN 10:   1784616567
Pages:   120
Publication Date:   08 February 2019
Audience:   General/trade ,  General
Format:   Paperback
Publisher's Status:   Active
Availability:   In stock   Availability explained
We have confirmation that this item is in stock with the supplier. It will be ordered in for you and dispatched immediately.
Language:   Welsh

Table of Contents

Reviews

Dyma'r seithfed casgliad o ysgrifau yng nghyfres Astudiaethau Athronyddol. -- Y Lolfa


Dyma'r seithfed casgliad o ysgrifau yn y gyfres Astudiaethau Athronyddol. -- Cyhoeddwr: Y Lolfa Hon yw’r seithfed gyfrol yn y gyfres ac mae’r Lolfa i’w longyfarch yn arw iawn ar barhau’r traddodiad anrhydeddus a gafwyd yng Nghymru o gyhoeddi gweithiau athronyddol eu natur, byth er ymddangosiad Hanes Athroniaeth y Groegiaid, R. Llugwy Owen, yn 1899. Ar adeg pan mae cymaint o brifysgolion, a phrifysgolion Cymru yn eu plith, wedi troi cefn ar Athroniaeth fel disgyblaeth academaidd, er mor sylfaenol bwysig yw’r pwnc mewn unrhyw brifysgol werth ei halen ac mewn unrhyw gymdeithas wâr, mae hefyd yn werth nodi fod dau o’r chwe cyfrannwr yn y gyfrol hon yn cael eu noddi fel darlithwyr mewn athroniaeth gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. O leiaf, felly, nid yw’r haul wedi machlud yn llwyr ar y pwnc yma yng Nghymru! Fel y nodir ar y clawr, ‘ysgrifau sy’n ymwneud â meysydd sydd yn ffinio ar athroniaeth neu sydd yn cynnig eu hunain i drafodaeth athronyddol yn arbennig ym myd y celfyddydau a’r byd gwleidyddol’ a geir yma, ac ysgrifau, fel yr honnir, sy’n ‘trafod testunau oesol a chyfredol’ a’r cyfan yn plethu i’w gilydd yn rhyfeddol o ddiddorol a difyr. ‘T. H. Parry-Williams ac Athroniaeth’ yw teitl yr ysgrif gyntaf o eiddo’r Athro Emeritws Howard Williams lle cawn ein hatgoffa i Parry–Williams, ac yntau’n fyfyriwr ymchwil ym Mhrifysgol Freiburg, 1911–13, fynychu dosbarthiadau seicoleg ac athroniaeth yr athronydd neo-Kantaidd, Heinrich Rickert, oedd yn Athro Athroniaeth yno, ac i’r myfyriwr o’r Rhyd-ddu ‘leibio i’w gyfansoddiad’ rai o syniadau mwyaf arloesol a dylanwadol y cyfnod. Nid yw’n syndod, felly, iddo ddatblygu y mwyaf synfyfyriol o’n beirdd a hynny’n arwain at ddatganiad Howard Williams. ‘Nid wyf am honni mai athronydd yw Parry-Williams, ond rwyf am ddadlau fod cwestiynau athronyddol sylfaenol yn cael eu hamlygu yn ei waith mewn modd deallus a ffrwythlon’. Ac er mai canolbwyntio yn bennaf ar y dystiolaeth ym marddoniaeth Parry-Williams a wna’r ysgrif hon fe geir yr un math o dystiolaeth yn ei ryddiaith hefyd ac yn nheitlau rhai o’i gyfrolau o ysgrifau. Ond ei ddadansoddiad craff o rai o gerddi enwog Parry-Williams sy’n apelgar a gwerthfawr yn yr ysgrif hon. Golygydd y gyfrol hon, E. Gwynn Matthews, yw awdur yr ail ysgrif, ‘Rheswm a hen chwedlau: cyngor Jac Glan-y-gors’. Man cychwyn ysgrif Gwynn yw dau lyfryn enwog Jac Glan-y-gors, y bardd a’r meddyliwr radical o Uwch Aled, Seren Tan Gwmwl (1795) a Toriad y Dydd (1797). Ac er nad oedd Jac yn athronydd fe olrheinir dylanwadau athronwyr amlwg arno, rhai fel Thomas Hobbes (1588–1679), John Locke (1632–1704) a Richard Price (1723–91). Prif thema’r ysgrif yw natur hanfodol cymdeithas ymhob oes, ac mae ymdriniaeth Gwynn Matthews â syniadau’r athronydd a’r cymdeithasegydd Almaenig, Friedrich Tönnies (1855–1936) a’i gyhoeddiad dylanwadol, Gemeinschaft und Gesellschaft (1887) yn arbennig o berthnasol i’n dyddiau a’n cymdeithas drofaus ninnau. ‘A oes dyfodol? Trafod Sosialaeth Gymreig o safbwynt hanesyddol’ yw teitl y drydedd ysgrif o eiddo Dr Huw L. Williams a man cychwyn ei drafodaeth ef yw ysgrif a gyfrannodd Niclas y Glais i’r Genhinen yn Ionawr 1912. A dyna ni ’nôl yng nghwmni un arall o ŵyr llên Cymru, er bod yr awdur yn trafod hefyd rhai o syniadau sosialaidd arloesol Cymro arall, sef Robert Owen, nad arddelai ei Gymreictod! Mae’r ysgrif hon yn codi nifer o gwestiynau sy’n arbennig o berthnasol yng nghyd-destun gwleidyddol ein Cymru gyfoes ac yn honni fod ‘angen dybryd am newidiadau radical’ yn ein cymdeithas er mwyn ‘ gallu ail-greu a diwygio’r traddodiad’. Dyma ysgrif sy’n llawn syniadau heriol, gwerth eu trafod, ac yn amlygu pwysigrwydd athroniaeth wleidyddol. Mae testunau’r tair ysgrif olaf yn y gyfrol yn fwy cyfredol eu natur, o leiaf yn ymddangosiadol. ‘Newyddion ffug’, sy’n bwnc cyfoes iawn fel y gwyddom, yw maes myfyrdod yr Athro Emeritws Steven D. Edwards ac fel mae’n nodi : ‘Coda’r ffenomenon o newyddion ffug hen broblemau athronyddol mewn epistemoleg megis “Beth yw’r gwahaniaeth rhwng gosodiadau gwir a gosodiadau anwir?’” a cheir ymdriniaeth loyw yma o’r problemau a gyfyd pan ystyriwn holl fater ein canfyddiadau o wybodaeth. Trafod y fethodoleg a ddefnyddiodd wrth weithio ar ei doethuriaeth a wna Dr Rhiannon M. Williams yn ei hysgrif ‘Perfformio a Ffenomenoleg: Cof, Corff a Chapel’, ac mae rhan helaethaf yr ysgrif yn egluro sut yr aeth at i benderfynu ar union fethodoleg ei hymchwil. Mae hon, fel yr ysgrifau eraill i gyd, yn cynnwys cyfeirnodau manwl at ffynonellau a ddefnyddiwyd gan yr awdur i egluro gwahanol safbwyntiau. ‘Y Llwyfan Diderfyn: Benjamin Habermas a Chomedi’ yw teitl y chweched ysgrif lle mae’r awdur, Dr Dafydd Huw Rees, yn ystyried comedi stand-up a’r berthynas unigryw sy’n bodoli rhwng y perfformiwr unigol a’i gynulleidfa. Dengys yr awdur fod y math yma o berfformiad yn mynd yn ôl i ddyddiau’r Groegiaid lle byddai’r gelotopoi ( dynion digrif) yn perfformio, ac fe godir cwestiynau athronyddol o bwys ynghylch natur perfformiad. Oes, mae yma ddeunydd myfyrdodau deallusol gwerthfawr ac am y pris rhesymol o £7.99 mae’r gyfrol yn fargen. -- Rheinallt Llwyd @ www.gwales.com


Author Information

Tab Content 6

Author Website:  

Customer Reviews

Recent Reviews

No review item found!

Add your own review!

Countries Available

All regions
Latest Reading Guide

ls

Shopping Cart
Your cart is empty
Shopping cart
Mailing List