|
![]() |
|||
|
||||
OverviewA humorous and colourful collection of poetry by Caryl Parry Jones, inspired by her term as Wales' Children's Poet Laureate, 2007-08. Includes drawings by Helen Flook. Full Product DetailsAuthor: Caryl Parry Jones , Helen FlookPublisher: Gomer Press Imprint: Gomer Press ISBN: 9781848510692ISBN 10: 1848510691 Pages: 32 Publication Date: 15 October 2009 Audience: Primary & secondary/elementary & high school , Educational: Primary & Secondary Format: Paperback Publisher's Status: Active Availability: In Print ![]() This item will be ordered in for you from one of our suppliers. Upon receipt, we will promptly dispatch it out to you. For in store availability, please contact us. Table of ContentsReviewsCyfrol o bymtheg o gerddi amrywiol gan Caryl Parry Jones sydd yma, ar rheiny wedi eu seilio ar ei blwyddyn yn Fardd Plant Cymru 2007-08. Fel y byddech yn ei ddisgwyl felly, mae pynciaur cerddin amrywio ac yn adlewyrchu ehangder diddordebau plant o Lyfrau a Chwpan Rygbir Byd i Gystadlu yn Eisteddfod Caerfyrddin a Char Mam. Maer pwyslais or cychwyn ar annog plant i fwynhau Ar ein taith drwy fyd barddoni ac ar eu hannog i roi cynnig ar fod yn feirdd eu hunain: Mi fyddwch bob un yn serennu / Wrth i chi a mi farddoni. Ond ochr yn ochr r hwyl, cawn gipolwg yn ogystal ar swyddogaeth arall sydd gan y Bardd Plant, sef addysgur plant am wahanol elfennau a nodweddion barddoniaeth. Fe welir hyn yn glir, er enghraifft, mewn cerddi megis Anifeiliaid Anhwylder ar Pluen Eira, lle caiff y plant gyfle i werthfawrogi cymariaethau a throsiadau dirifedi. Doniolwch a hiwmor wedyn syn nodweddu Blob a chwarae ar eiriau clyfar syn rhoi naws arbennig i Grindar Ysbryd Drwg, heb anghofio, wrth gwrs, arwyddocd addysgiadol gynnil Cyflythrennu Cracyrs gyda Geiriau Gwallgo! Roedd fy mab yn arbennig o hoff or ddwy gerdd Pos Odli a Pos Lliwiau syn annog plant i gymryd rhan yn y broses o lunio cerdd drwy ddyfalu pa eiriau sydd ar goll, er enghraifft, Lleuad lawn ar nos o Ha, / Maen amser cysgu nawr, Nos ...! Ond fy hoff gerdd i, yn bersonol, oedd y gerdd y mae llinell ohoni yn rhoir teitl ir gyfrol, sef Rhwng Cwsg ac Effro. Dyma gerdd iw darllen cyn mynd ir gwely am ei bod yn gwneud i chi deimlon gynnes glyd ac yn eich paratoi ar gyfer breuddwydion melys: Rywle rhwng cwsg ac effro / Mae na wlad yn y cymylau. / Gwlad o wln cotwm ac o blu, / Siocled poeth a marshmalos. Unwaith eto mae cartwnau hyfryd Helen Flook yn arbennig o drawiadol ac yn llwyddo i ddod phynciaur cerddin fyw. Ond er mor rhagorol ywr cerddi ar cartwnau, teimlaf y byddair gyfrol ar ei hennill pe bai Caryl wedi recordio CD ohoni hi ei hun yn darllen y cerddi i gyd-fynd r gyfrol. Rhan allweddol o apl ei chyfrol Barti Smarti a Straeon a Cherddi Eraill i mi ac i fy mab chwe blwydd oed oedd chwerthin yn uchel wrth wrando ar Caryl yn adrodd y straeon yn ei ffordd ddihafal ei hun. Mae hin bendant yn well na fi am adrodd stori a cherdd ac rwyn siwr y byddai fy mab wedi gwerthfawrogi Siocled Poeth a Marshmalos hyd yn oed yn fwy pe bai wedi gallu gwrando ar ddoniau llefaru Caryl yn hytrach na Mam! Lynne Williams Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatd Cyngor Llyfrau Cymru. It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council. -- Cyngor Llyfrau Cymru Author InformationTab Content 6Author Website:Countries AvailableAll regions |