|
![]() |
|||
|
||||
OverviewSeven stories located in a world of fantasy inhabited by grotesque creatures, by the winner of the Prose Medal at the 1993 National Eisteddfod. First published in 1993. -- Cyngor Llyfrau Cymru Full Product DetailsAuthor: Mihangel MorganPublisher: Y Lolfa Imprint: Y Lolfa ISBN: 9780862433048ISBN 10: 0862433045 Pages: 128 Publication Date: 31 August 2004 Audience: General/trade , General Format: Paperback Publisher's Status: Active Availability: Available To Order ![]() We have confirmation that this item is in stock with the supplier. It will be ordered in for you and dispatched immediately. Language: Welsh Table of ContentsReviewsPan gyhoeddodd Saunders Lewis yn bryfoclyd yng nghanol y dauddegau mai colled i lenyddiaeth yw colli pechod, go brin y gallasai rag-weld ymgorffori ei ddedfryd mewn cyfrol fel hon. Cyhoeddwyd Saith Pechod Marwol yn wreiddiol yn 1993 (blwyddyn canmlwyddiant geni SL, gyda llaw), a dyma hi bellach wedi cyrraedd ei thrydydd argraffiad. Ceir pedair oi straeon ar faes llafur Cymraeg Safon Uwch Ail Iaith ac mae Monica Maciwan, pen-bechadures eiconig y cawr o Wallasey, yn farw, wedi ei saethu yng nghanol drewdod ei chathod gan Iolo (neu 1%) Jones mewn hwrdd o ddicter cyfiawn yn y stori olaf, Câr Dy Gymydog. Mae blas cystadleuaeth eisteddfodol ddiddychymyg ar y syniad o ymdrin âr saith pechod marwol mewn saith stori fer, ond dyma gampwaith ar ei waethaf. Un rheswm, bid siŵr, yw fod pechod yn gynefin llenyddol mor naturiol i'r awdur: y straeon hyn yw magwrfa cymeriadau ei waith aeddfetach o Melog i Dirgel Ddyn man cychwyn ei obsesiwn âr cysyniad o obsesiwn ei hun. Yr ail reswm yw hepgor y fannod. Nid y Saith Pechod Marwol sydd yma, sylwer, ond saith diffyg neu saith gwyriad personol, neilltuol. Gesyd Mihangel Morgan ei hun, fel yr awgrymar dyfyniadau ar ei flaenddalen, yn ddiogel mewn llinach lenyddol syn credu ac yn ddealladwy ddigon fod pechod yn fwy diddorol, yn fwy dynol, na daioni dof a dicra. Ar trydydd rheswm am eu llwyddiant yw fod yr awdur yn gwybod sut i ddweud stori. Rhyw ddarllen gan rythu rhwng ein bysedd y byddwn ni ar dro, ond dal i ddarllen er hynny. Rhwng yr hwyl abswrdaidd an hymhyfrydu annheilwng ninnau, maen debyg nad oes cyflwyniad gwell i ddychymyg direidus yr awdur nar tameidiau hyn. Rhed dirywiad drwyr straeon fel haen o rwd. Nid oes yr un cymeriad nad ywn crebachu erbyn eu diwedd. Ac mae Mihangel yn meddu ar y ddawn dawel, ensyniadus in gwneud yn gyfrannog. Gwna bechaduriaid ohonom i gyd. Maen dda o beth fod Saith Pechod Marwol wedi ennill statws llyfr gosod iddoi hun. Er hynny, a siarad o brofiad, gwell lle ir llyfr hwn yw erchwyn gwely nag ystafell ddosbarth. Caiff y darllenydd, wedyn, ymgolli mewn stori, diolch ir drefn na chrëwyd mohono/mohoni mor ffaeledig, diffodd y golau gyda chydwybod lân a breuddwydio. -- Robin Chapman @ www.gwales.com Pan gyhoeddodd Saunders Lewis yn bryfoclyd yng nghanol y dauddegau mai 'colled i lenyddiaeth yw colli pechod', go brin y gallasai rag-weld ymgorffori ei ddedfryd mewn cyfrol fel hon. Cyhoeddwyd Saith Pechod Marwol yn wreiddiol yn 1993 (blwyddyn canmlwyddiant geni SL, gyda llaw), a dyma hi bellach wedi cyrraedd ei thrydydd argraffiad. Ceir pedair o'i straeon ar faes llafur Cymraeg Safon Uwch Ail Iaith ac mae Monica Maciwan, pen-bechadures eiconig y cawr o Wallasey, yn farw, wedi ei saethu yng nghanol drewdod ei chathod gan Iolo (neu 1%) Jones mewn hwrdd o ddicter cyfiawn yn y stori olaf, 'Car Dy Gymydog'. Mae blas cystadleuaeth eisteddfodol ddiddychymyg ar y syniad o ymdrin a'r saith pechod marwol mewn saith stori fer, ond dyma gampwaith ar ei waethaf. Un rheswm, bid siwr, yw fod pechod yn gynefin llenyddol mor naturiol i'r awdur: y straeon hyn yw magwrfa cymeriadau ei waith aeddfetach o Melog i Dirgel Ddyn man cychwyn ei obsesiwn a'r cysyniad o obsesiwn ei hun. Yr ail reswm yw hepgor y fannod. Nid y Saith Pechod Marwol sydd yma, sylwer, ond saith diffyg neu saith gwyriad personol, neilltuol. Gesyd Mihangel Morgan ei hun, fel yr awgryma'r dyfyniadau ar ei flaenddalen, yn ddiogel mewn llinach lenyddol sy'n credu ac yn ddealladwy ddigon fod pechod yn fwy diddorol, yn fwy dynol, na daioni dof a dicra. A'r trydydd rheswm am eu llwyddiant yw fod yr awdur yn gwybod sut i ddweud stori. Rhyw ddarllen gan rythu rhwng ein bysedd y byddwn ni ar dro, ond dal i ddarllen er hynny. Rhwng yr hwyl abswrdaidd a'n hymhyfrydu annheilwng ninnau, mae'n debyg nad oes cyflwyniad gwell i ddychymyg direidus yr awdur na'r tameidiau hyn. Rhed dirywiad drwy'r straeon fel haen o rwd. Nid oes yr un cymeriad nad yw'n crebachu erbyn eu diwedd. Ac mae Mihangel yn meddu ar y ddawn dawel, ensyniadus i'n gwneud yn gyfrannog. Gwna bechaduriaid ohonom i gyd. Mae'n dda o beth fod Saith Pechod Marwol wedi ennill statws llyfr gosod iddo'i hun. Er hynny, a siarad o brofiad, gwell lle i'r llyfr hwn yw erchwyn gwely nag ystafell ddosbarth. Caiff y darllenydd, wedyn, ymgolli mewn stori, diolch i'r drefn na chrewyd mohono/mohoni mor ffaeledig, diffodd y golau gyda chydwybod lan a breuddwydio. -- Robin Chapman @ www.gwales.com Author InformationTab Content 6Author Website:Countries AvailableAll regions |